Author: Thomas Levi, 1825-1916 Meter: 8.8.8.6 Appears in 1 hymnal First Line: Fel, fel yr wyf, ’nawr atat Ti Lyrics: 1 Fel, fel yr wyf, ’nawr atat Ti
Heb ble ond aberth Calfari,
A’th fod yn galw arnaf fi,
O ddwyfol Oen! ’r wy’n dod.
2 Fel, fel yr wyf, heb oed’in hwy
I geisio’n ofer wella ’nghlwy’,
Ond atat Ti all wella mwy,
O ddwyfol Oen! ’r wy’n dod.
3 Fel, fel yr wyf, â’m heuog fron,
Yn derfysg drwyddi, fel y don,
Yn ofni suddo’r funud hon,
O ddwyfol Oen! ’r wy’n dod.
4 Fel, fel yr wyf, yn ddal, yn dlawd,
Y truenusaf un a ga’w’d,
Gan ddisgwyl ynot Ti gael Brawd,
O ddwyfol Oen! ’r wy’n dod.
5 Fel, fel yr wyf, mae’th gariad mawr,
Yn torri ’r rhwystrau oll i lawr;
’Gael bod yn eiddot byth yn awr,
O ddwyfol Oen! ’r wy’n dod. Used With Tune: GWYLFA
Fel, Fel Yr Wyf