Author: James G. Deck; Roger Edwards Hymnal: The Cyber Hymnal #13439 Meter: 7.6.7.6 D First Line: Pa le, pa fodd dechreuaf Lyrics: 1 Pa le, pa fodd dechreuaf
Foliannu’r Iesu mawr?
Olrheinio’i ras ni fedraf;
Mae’n llenwi nef a llawr;
Anfeidrol ydyw’r Ceidwad,
A’i holl drysora’un llawn;
Diderfyn yw ei gariad,
Difesur yw ei ddawn.
2 Trugaredd a gwirionedd
Yng Nghrist sy ’nawr yn un,
Cyfiawnder a thangnefedd
Ynghyd am gadw dyn;
Am Grist a’i ddioddefiadau
Rhinweddau marwol glwy’
Y seinir pêr ganiadau
I dragwyddoldeb mwy.
3 O! diolch am Gyfryngwr
Gwaredwr cryf i’r gwan;
O! am gael ei adnabod
Fy Mhriod i a’m Rhan;
Fy ngwisgo â’i gyfiawnder
Yn hardd gerbron Y Tad;
A derbyn o’i gyfiawnder,
Wrth deithio’r anial wlad. Languages: Welsh Tune Title: PEN YR YRFA
Pa Le, Pa Fodd