Author: Robert Davies (Bardd Nantglyn), 1769-1825; Unknown; Hugh Hughes (Gethin), ?-1867 Hymnal: The Cyber Hymnal #13442 Meter: 8.7.87.8.8.7 First Line: Dduw mawr, pa beth a welaf draw? Lyrics: 1 Dduw mawr, pa beth a welaf draw?
Diwedd a braw i’r hollfyd!
Mi wela’r Barnwr yn nesáu
Ar glaer gymylau tanllyd;
Yr utgorn mawr yn seinio sydd,
Y meirw ddaw i gyd yn rhydd,
I wae, neu ddydd o wynfyd.
2 Ac wrth y floedd, y meirw yng Nghrist
Yn gyntaf a gyfodant;
I gwrdd â’u Harglwydd fry uwchen
Yn llawen yr esgynnant;
Ei bresenoldeb dwyfol sydd
Yn tro eu nos yn fythol ddydd,
A’u gobaith prudd yn fwyniant.
3 O’i flaen y daw’r annuwiol rai,
I ing a gwae tragwyddol;
Eu dagrau a’u gweddïau dwys
Sy’n awr yn aneffeithio;
Er ofnau fyrdd, rhaid mynd ymlaen,
I gwrdd â’r Duw sy’n ysol dân,
O flaen yr orsedd farnol.
4 O Farnwr cyfiawn, gwrando’n cri,
Sydd mewn trueni’n gorwedd;
O’th nerthol ras tosturia di,
A dod i ni drugaredd;
O fewn y noddfa, caffer ni,
Agorwyd gynt ar Galfari,
Cyn delo dydd dialedd.
5 Dydd gras yw’n awr, dydd yw i ni
I ffoi rhag llid i ddyfod;
Mae eto le, trwy’r Iesu hael,
I ni â Duw gael cymmod:
Awn ato Fe, cawn eto fyw,
Boed iddo glod, dydd cymmod yw,
O brysiwn i’w gyfarfod. Languages: Welsh Tune Title: DIES IRAE
Y Dydd Olaf