1 Yn y dyfroedd mawr a’r tonnau,
Nid oes neb a ddeil fy mhen
Ond fy annwyl Briod Iesu,
A fu farw ar y pren:
Cyfaill yw yn afon angau,
Ddeil fy mhen i uwch y don;
Golwg arno wna i mi ganu
Yn yr afon ddofon hon.
2 O! anfeidrol rym y cariad,
Anorchfygol ydyw’r gras;
Digyfnewid yw’r addewid,
A bery byth o hyn i maes;
Hon yw f’angor ar y cefnfor,
Na chyfnewid meddwl Duw;
Fe addawodd na chawn farw,
Yng nghlwyfau’r
Oen y cawn i fyw.
Display Title: Yn Y Dyfroedd Mawr A'r TonnauFirst Line: Yn y dyfroedd mawr a’r tonnauTune Title: [Yn y dyfroedd mawr a’r tonnau]Author: Dafydd William, 1720-1794
Display Title: Yn y dyfroedd mawr a'r tonnauFirst Line: Yn y dyfroedd mawr a'r tonnauTune Title: EBENEZER (TON-Y-BOTEL)Author: Dafydd William, Llandeilo Fach.; Dafydd William. (1720-1794)Meter: M.10.(8.7.D)Date: 1979
It looks like you are using an ad-blocker. Ad revenue helps keep us running.
Please consider white-listing Hymnary.org or getting Hymnary Pro
to eliminate ads entirely and help support Hymnary.org.