1 Pa le, pa fodd dechreuaf
Foliannu’r Iesu mawr?
Olrheinio’i ras ni fedraf;
Mae’n llenwi nef a llawr;
Anfeidrol ydyw’r Ceidwad,
A’i holl drysora’un llawn;
Diderfyn yw ei gariad,
Difesur yw ei ddawn.
2 Trugaredd a gwirionedd
Yng Nghrist sy ’nawr yn un,
Cyfiawnder a thangnefedd
Ynghyd am gadw dyn;
Am Grist a’i ddioddefiadau
Rhinweddau marwol glwy’
Y seinir pêr ganiadau
I dragwyddoldeb mwy.
3 O! diolch am Gyfryngwr
Gwaredwr cryf i’r gwan;
O! am gael ei adnabod
Fy Mhriod i a’m Rhan;
Fy ngwisgo â’i gyfiawnder
Yn hardd gerbron Y Tad;
A derbyn o’i gyfiawnder,
Wrth deithio’r anial wlad.
Edwards, Roger, a celebrated Welsh Calvinistic minister, was born at Bala, Jan. 22, 1811. He was closely associated with the literary productions of the Calvinistic Methodists, and was editor for many years of their magazine and their reviews. He died at Mold, July 19, 1886. He edited a denominational hymn-book in 1840, for which he wrote several hymns. He also published a volume of moral and sacred songs in 1855.
--John Julian, Dictionary of Hymnology, Appendix, Part II (1907)
Go to person page >
Display Title: Pa le, pa fodd dechreuafFirst Line: Pa le, pa fodd dechreuafTune Title: PEN YR YRFAAuthor: Roger Edwards, 1811-1886Meter: (7 6.7 6. D.)Date: 1979
Display Title: Pa le, pa fodd dechreuafFirst Line: Pa le, pa fodd dechreuafTune Title: PEN YR YRFAAuthor: Roger Edwards, 1811-1886Meter: (7 6.7 6. D.)Date: 1995
It looks like you are using an ad-blocker. Ad revenue helps keep us running.
Please consider white-listing Hymnary.org or getting Hymnary Pro
to eliminate ads entirely and help support Hymnary.org.