13430 | The Cyber Hymnal#13431 | 13432 |
Text: | I Bob Un Sydd Ffyddlon |
Author: | Sabine Baring-Gould |
Paraphraser: | Henry Lloyd (Ap Hefin) 1870-1946 |
Tune: | [I bob un sydd ffyddlon] |
Composer: | Caradog Roberts, 1897-1935 |
Media: | MIDI file |
1 I bob un sydd ffyddlon
Dan Ei faner Ef
Mae gan Iesu goron
Fry yn nheyrnas nef
Lluoedd Duw a Satan
Sydd yn cwrdd yn awr:
Mae gan blant eu cyfran
Yn y rhyfel mawr.
Byrdwn:
I bob un sydd ffyddlon,
Dan Ei faner Ef
Mae gan Iesu goron
Fry yn nheyrnas nef.
2 Medd-dod fel Goliath
Heria ddyn a Duw;
Myrdd a myrdd garchara
Gan mor feiddgar yw;
Brodyr a chwiorydd
Sy’n ei gastell prudd:
Rhaid yw chwalu’i geyrydd,
Rhaid cael pawb yn rhydd. [Byrdwn]
3 Awn i gwrdd y gelyn,
Bawb ag arfau glân;
Uffern sydd i’n herbyn
A’i phicellau tân.
Gwasgwn yn y rhengau,
Ac edrychwn fry;
Concrwr byd ac angau
Acw sydd o’n tu! [Byrdwn]
Text Information | |
---|---|
First Line: | I bob un sydd ffyddlon |
Title: | I Bob Un Sydd Ffyddlon |
English Title: | Onward, Christian soldiers |
Author: | Sabine Baring-Gould |
Paraphraser: | Henry Lloyd (Ap Hefin) 1870-1946 |
Refrain First Line: | I bob un sydd ffyddlon |
Language: | Welsh |
Copyright: | Public Domain |
Tune Information | |
---|---|
Name: | [I bob un sydd ffyddlon] |
Composer: | Caradog Roberts, 1897-1935 |
Key: | A♭ Major |
Copyright: | Public Domain |
Media | |
---|---|
Adobe Acrobat image: | ![]() |
MIDI file: | ![]() |
Noteworthy Composer score: | ![]() |